Eglwys Santes Helen
Mae'r eglwys wedi dathlu ei chanmlwyddiant yn ystod 1983.
The church celebrated it's centeniary during 1983.
Capel Bozrah
Saif yr addoldy hwn oddeutu milldir a haner islaw i Ebenezer, ar y ffordd i Gaernarfon, mewn pentref bychan gwledig o'r enw Penisarwaun. Yn y flywddyn 1811 yr adeiladwyd y capel ac y sefydlwyd yr eglwys Annibynol yma. Cynhelid gwasanaeth crefyddol beth amser cyn hyny mewn ty anedd yn y lle. Daeth yr ysgol Sabbothol yn flodeuog, ac arwyddion fod y gynnulleidfa yn cynyddu. Er mai lle bychan sydd yma, ac ardal deneu ei phoblogaeth, y mae yn Bozrah bob amser eglwys fechan weithgar, unol, a selog dros ben. Costiodd y capel cyntaf oddeutu 200p. Yn fuan wedi ei agor gostyngwyd y cyflogau yn y chwarel, ac ymadawodd rhai gweithwyr o'r ardal nes y teimlodd y gweddill fod y ddyled yn pwyso yn drwm arnynt. Gwasgodd hyn Mr. Edwards i droi ei wyneb oddicartref i geisio cymorth. Y mae ei lyfr casglu ger ein bron, lle gwelwn iddo ymweled a llawer o eglwysi y De ar ran capel Bozrah, a dychwelyd gyda moddion i ddileu cyfran helaeth o'r ddyled. Bu Mr. Edwards bob amser yn dra gofalus ac ymdrechgar i sicrhau llwyddiant Bozrah, yn yr hyn befyd y bu yn llwyddianus i raddau helaeth, oldegid yn y flwyddyn 1860, cawn fod y capel yn cael ei adgyweirio. Chwanegwyd pedair neu bump llath at ei hyd, ac adnewyddwyd yr oll oddifewn. Costiodd hyn yn agos i 200p., ond erbyn hyn nid oes yn llawn 20p. o honynt yn aros heb eu talu. Bu yma rai brodyr teilwng o gofio am danynt. Un felly oedd Richard Evans, Waunrythallt, a'i deulu. Efe oedd un o ddiaconiaid cyntaf Bozrah. Ni welwyd neb mwy ffyddlon a selog. Yn ei dy ac yn mhob man arall byddai wrth ei fodd yn cael gwneyd rhwybeth gyda 'r achos. Cafodd lluaws o weinidogion Iesu lawer o garedigrwydd pur a dibrin ar ei aelwyd. Cyfranai yn hael at grefydd, ac y mae perarogl hyfryd ei fuchedd yn aros etto. Griffith Jones, Groeslon, hefyd, oedd ddiacon yma o gymeriad pur, ac o fywyd tra bu gyda chrefydd, wedi ei roddi yn llwyr i'w gwasanaethu. Mae y lle yma o'r dechreuad mewn cysylltiad ag Ebenezer, ac felly y mae yn parhau.
Llyrhyr Mr. O. Jones, Ebenezer.